Vacancies
Date
Price
Event Type
About this event
Space / Lle is a filmmaker development lab for writers, directors and producers that encompasses a creative retreat in the Gower peninsula, South Wales, on the 4th – 9th May 2025 followed by bespoke mentoring, masterclasses and career building sessions over subsequent days throughout the year. The residential creative retreat will be led by renowned LIM | Less Is More international development lab.
Applicants will need to have a feature film (live action or animated) or feature documentary idea that they’re applying with to get the most out of the lab, even if it’s just an early cinematic idea.
Deadline for applications is Tuesday 25th March (midday). Guidelines and application forms here: https://ffilmcymruwales.com/funding-and-training/space-lle
Who can apply?
- The Space/Lle lab is focused on people based in Wales who identify as part of the global majority and who are aspiring to or already have some experience of, writing, directing or producing cinematic feature film. By global majority we mean people who identify as Black, Asian, Brown, dual-heritage, indigenous to the global south, and/or people who have been racialised as 'ethnic minorities’.
- Participants should have a creative track record in TV or another art form and can be focused on animation, live action narrative or documentary film, but cannot have been the lead writer, director or producer on a feature film in the last ten years that has gained commercial UK distribution (ie not self-released).
- You must also be over the age of 18 and not in full-time education.
Space / Lle offers you the space to breathe, to build, to create, and to fall in love with film again. We look forward to getting your application!
----------------------------------------------------------------------------------------------Labordy datblygu gwneuthurwyr ffilmiau yw Lle / Space sy’n cynnwys encil creadigol ym Mhenrhyn Gŵyr, yn ne Cymru, ar 4ydd – 9fed fed Mai 2025, ac yna mentora, dosbarthiadau meistr a sesiynau meithrin gyrfa dros ddyddiau dilynol drwy gydol y flwyddyn. Bydd yr encil creadigol preswyl yn cael ei arwain gan LIM | Labordy datblygu rhyngwladol Less Is More. Os na allwch ei gwneud hi i’r dyddiadau yng Ngŵyr, anfonwch e-bost atom - [email protected] - i gofrestru eich diddordeb mewn gweithgaredd tebyg yn y dyfodol.
Nid oes ffi am y labordy hwn. Bydd y cyfranogwyr yn cael eu talu £120 y dydd am gymryd rhan ac ni fydd angen iddyn nhw dalu am yr holl lety a phrydau bwyd angenrheidiol. Mae cymorth hefyd ar gyfer costau teithio.
Dyddiad cau
12pm Dydd Mawrth 25ain Mawrth 2025
Canllawiau a ffurflen gais yma:https://ffilmcymruwales.com/cy/funding-and-training/lle-space
Pwy all wneud cais?
- Mae labordy Lle / Space yn canolbwyntio ar bobl yng Nghymru sy'n uniaethu fel rhan o'r mwyafrif byd-eang ac sy'n awyddus i ysgrifennu, cyfarwyddo neu gynhyrchu ffilm nodwedd sinematig neu sydd eisoes â rhywfaint o brofiad. Wrth ddweud y mwyafrif byd-eang, yr hyn a olygwn yw’r bobl hynny sy'n uniaethu fel Pobl Dduon, Asiaidd, Brown, treftadaeth ddeuol, brodorol i'r de byd-eang, a/neu bobl sydd wedi cael eu diffinio ar sail hil fel lleiafrifoedd ethnig.
- Dylai fod gan gyfranogwyr hanes creadigol ym myd teledu neu ffurf arall ar gelfyddyd ac fe allan nhw fod yn canolbwyntio ar ffilm animeiddiedig, ffilm naratif gweithredu byw neu ffilm ddogfen, ond ni allan nhw fod wedi bod yn brif ysgrifennwr, cyfarwyddwr neu gynhyrchydd ar ffilm nodwedd yn ystod y deng mlynedd diwethaf sydd wedi cael ei dosbarthu’n fasnachol yn y DU (h.y. heb fod wedi’i hunan-ryddhau).
- Rhaid i chi hefyd fod dros 18 oed a heb fod mewn addysg amser llawn.
Mae Lle / Space yn cynnig lle i chi anadlu, i adeiladu, i greu, ac i syrthio mewn cariad â ffilm unwaith eto. Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais!
Location
Gower, Swansea, other venues TBC and online