News and Features

BFI INVESTS £900,000 NATIONAL LOTTERY FUNDING OVER TWO YEARS TO CREATE A BFI SKILLS CLUSTER FOR WALES - start of article

BFI INVESTS £900,000 NATIONAL LOTTERY FUNDING OVER TWO YEARS TO CREATE A BFI SKILLS CLUSTER FOR WALES

BFI INVESTS £900,000 NATIONAL LOTTERY FUNDING OVER TWO YEARS TO CREATE A BFI SKILLS CLUSTER FOR WALES

Sgil Cymru, Creative Wales and Screen Alliance Wales (SAW) partner to launch the ‘One Stop Shop’, a BFI Skills Cluster for Wales supporting workforce development of the nation’s screen production sector

LONDON – Thursday 18 April 2024: The BFI is investing £900,000 in a BFI Skills Cluster in Wales, which will see Sgil Cymru, in close partnership with Creative Wales and Screen Alliance Wales (SAW), launch the new ‘One Stop Shop’ thanks to National Lottery good cause funding. It becomes one of seven BFI Skills Cluster across UK nations and regions which seek to work collaboratively with local industry, education, and training providers to develop clearer pathways to long-term employment in film and TV production.

The One Stop Shop will receive additional funding from Creative Wales and BBC Studios, and work as a collaborative partnership of training providers, further and higher educators, and industry, working together to provide clear, coherent and transparent pathways to enter or progress within the screen industry. It will focus on providing opportunities for all those currently under-represented in the sector, and in its initial two year phase will seek to benefit and engage with over 2000 workers.

The new service will include four key strands:

The One Stop Shop’ will include an online resource with a calendar of training and work experience opportunities, job postings and links to crew databases, making it much easier for people to access opportunities.

The Start of the Journey – will focus on entry level training, community and educational outreach, and an ‘Opportunities for All’ bursary fund.

Bridging the Gap – will work to bring further and higher education and industry closer together by providing coordinated work experience placements and a series of ‘Educating the Educators’ sessions.

Continuing the Journey – will provide further training and upskilling opportunities to those already working in the industry.

The One Stop Shop will be the place to visit when looking to forge or further a career in the screen sector. It will include bursaries to overcome barriers to entry, coordinated work experience placements, a full-time trained mentor on hand to provide advice to both new entrants and the existing workforce, and practical, newly imagined training schemes.

The programme will be strengthened by key delivery partners BBC Studios, NFTS Cymru, Ffilm Cymru Wales, Into Film, Culture Connect Wales, TAPE, Cardiff & Vale College, Coleg y Cymoedd; University of South Wales, Bangor University & Aberystwyth University who will lead the way with wider partners and ensure that One Stop Shop works for people in every region of Wales.

A team working on behalf of the skills cluster in Wales, will be employed to drive and deliver activity across the first two years to ensure a cohesive and impactful start for the cluster. Sue Jeffries, MD of Sgil Cymru, will be the overall lead for the project, with experienced Location and Production Manager, Lowri Thomas leading the team day to day.

Sara Whybrew, BFI’s Director of Skills and Workforce Development, said: “Wales is a key nation for the screen sector in the UK, home to large scale productions which are distributed across the globe, as well as content in the Welsh language. The partnership in place led by Sgil Cymru, will be building on vital work that has been started and we hope the Skills Cluster will provide a strong foundation on which to further build game changing training and work-based learning opportunities for diverse and representative talent across the nation. I am delighted to welcome Sgil Cymru, Screen Alliance Wales, Creative Wales, and their myriad industry partners into the BFI’s Skills Cluster portfolio, and can’t wait to meet some of the new talent they will support to get in, and get on, in a career in screen production.”

Sue Jeffries, Managing Director of Sgil Cymru, said:“It is with pride that Sgil Cymru takes on the leadership role in this partnership. The fact that the BFI, Creative Wales, and BBC Studios has shown its confidence in the nation and the sector by committing two years of funding for training in Wales is enormous.

“As a company we cannot wait to get started on this exciting new project. The One Stop Shop will bring together all the wonderful training projects already happening in Wales as well as see some great new initiatives, which will all help the sector grow for the future.”

Welsh Government Minister for Creative Industries, Hannah Blythyn said: “Our Creative Industries continue to be a real success story for Wales. In screen production alone, the Welsh economy sees an elevenfold return on every pound spent.

“The cornerstone of our work to develop and grow our creative industries depends on us successfully nurturing and harnessing the wide range of creative talent we have here in Wales. We are already working to provide this support through our Creative Wales Skills Fund, and I am very pleased to see us working with key providers to attract nearly £1million of additional funding into Wales to further improve our capacity to match talent with the growing opportunities we have across the sector.”

Allison Dowzell, MD Screen Alliance Wales, said: "Screen Alliance Wales is thrilled to join forces with Sgil Cymru and Creative Wales in this pivotal project for Wales, as we embark on a journey towards a more inclusive and representative screen industry. The ‘One Stop Shop' stands as a beacon of opportunity, guiding both newcomers and seasoned professionals towards fulfilling careers in the dynamic world of screen. Together with our partners, we're committed to breaking barriers, nurturing talent, and shaping a workforce that mirrors the diversity of our communities."

Kris Green, Training Executive, BBC Studios Drama Productions, said: “BBC Studios’ base in Roath Lock, Cardiff is the home of drama and screen talent in Wales. This perfectly-timed collaboration with Sgil Cymru and Creative Wales comes as the world’s only Welsh-language soap Pobol y Cwm celebrates its landmark 50th anniversary in October.

"During the show’s golden anniversary year, this partnership will enable us to bring to life the first ever Pobol Academy; a wholesale training initiative which will secure the pipeline of Welsh-speaking production and editorial talent for the future of Pobol and the wider industry, while also creating upskill opportunities for a cohort of incredible creatives via the second series of our Welsh-language comedy Anfamol. The joint enterprise will also help create exciting new trainee roles on BBC Studios’ award-winning, primetime medical show Casualty which continues to entertain millions.”

***************************************************************************

About BFI Skills Clusters

The BFI Skills Clusters funding enables organisations to work collaboratively with local industry, education and training providers to develop clearer pathways to long-term employment in film and TV production. The Skills Clusters see locally-based partners identifying skills shortages and gaps and coordinate skills and training opportunities for below-the-line production crew in their area. Through the Clusters, the BFI aims to build local skills bases by helping people across the UK, especially those from underrepresented backgrounds, find viable routes into the screen industry and effective career development support.

To date, the BFI has invested a total of £9m National Lottery funding over three years in the following areas:

Screen Yorkshire (North of England): £2.3m

Film London (London, Hertfordshire, Surrey, and Buckinghamshire): £2.2m

Screen Scotland (Scotland): £1.1m

Create Central (West Midlands): £1m

Northern Ireland Screen (Northern Ireland): £0.9m

Resource Productions (Berkshire): £0.6m

Sgil Cymru (Wales): £0.9m

The BFI is a cultural charity, a National Lottery distributor, and the UK’s lead organisation for film and the moving image. Our mission is:

To support creativity and actively seek out the next generation of UK storytellers

To grow and care for the BFI National Archive, the world’s largest film and television archive

To offer the widest range of UK and international moving image culture through our programmes and festivals - delivered online and in venue

To use our knowledge to educate and deepen public appreciation and understanding of film and the moving image

To work with Government and industry to ensure the continued growth of the UK’s screen industries

Founded in 1933, the BFI is a registered charity governed by Royal Charter. The BFI Board of Governors is chaired by Jay Hunt.

BFI YN BUDDSODDI £900,000 O ARIAN Y LOTERI GENEDLAETHOL DROS DDWY FLYNEDD I GREU CLWSTWR SGILIAU BFI I GYMRU

Sgil Cymru, Cymru Greadigol a Chynghrair Sgrin Cymru (SAW) yn partneru i lansio’r ‘Siop Un Stop’, Clwstwr Sgiliau BFI i Gymru sy’n cefnogi datblygiad gweithlu sector cynhyrchu sgrin y genedl

LLUNDAIN – Dydd Iau 18 Ebrill 2024: Mae’r BFI yn buddsoddi £900,000 mewn Clwstwr Sgiliau BFI yng Nghymru, a fydd yn gweld Sgil Cymru, mewn partneriaeth agos â Cymru Greadigol a Screen Alliance Wales (SAW), yn lansio’r ‘Siop Un Stop’ newydd, diolch i arian achosion da y Loteri Genedlaethol. Mae’n dod yn un o saith Clwstwr Sgiliau BFI ar draws gwledydd a rhanbarthau’r DU sy’n ceisio gweithio ar y cyd â diwydiant lleol, addysg a darparwyr hyfforddiant i ddatblygu llwybrau cliriach at gyflogaeth hirdymor ym maes cynhyrchu ffilm a theledu.

Bydd y Siop Un Stop yn derbyn cyllid ychwanegol gan Cymru Greadigol a BBC Studios, ac yn gweithio fel partneriaeth gydweithredol o ddarparwyr hyfforddiant, addysgwyr pellach ac uwch, a diwydiant, gan weithio gyda’i gilydd i ddarparu llwybrau clir, cydlynol a thryloyw i fynd i mewn neu i symud ymlaen o fewn y diwydiant sgrin. Bydd yn canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd i bawb sy’n cael eu tangynrychioli yn y sector ar hyn o bryd, ac yn ei gyfnod cychwynnol o ddwy flynedd bydd yn ceisio elwa ac ymgysylltu â dros 2000 o weithwyr.

Bydd y gwasanaeth newydd yn cynnwys pedwar llinyn allweddol:

Bydd ‘Y Siop Un Stop’ yn cynnwys adnodd ar-lein gyda chalendr o gyfleoedd hyfforddi a phrofiad gwaith, postiadau swyddi a dolenni i gronfeydd data criwiau, gan ei gwneud yn llawer haws i bobl gael mynediad at gyfleoedd.

Dechrau’r Daith – bydd yn canolbwyntio ar hyfforddiant lefel mynediad, allgymorth cymunedol ac addysgol, a chronfa fwrsariaeth ‘Cyfleoedd i Bawb’.

Pontio’r Bwlch – yn gweithio i ddod ag addysg bellach ac uwch a diwydiant yn nes at ei gilydd drwy ddarparu lleoliadau profiad gwaith cydgysylltiedig a chyfres o sesiynau ‘Addysgu’r Addysgwyr’.

Parhau â'r Siwrnai - bydd yn darparu cyfleoedd hyfforddi ac uwchsgilio pellach i'r rhai sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant.

Y Siop Un Stop fydd y lle i ymweld ag ef wrth geisio creu gyrfa yn y sector sgrin neu ei datblygu. Bydd yn cynnwys bwrsariaethau i oresgyn rhwystrau rhag mynediad, lleoliadau profiad gwaith cydgysylltiedig, mentor hyfforddedig llawn amser wrth law i roi cyngor i newydd-ddyfodiaid a'r gweithlu presennol, a chynlluniau hyfforddi ymarferol, newydd eu dychmygu.

Bydd y rhaglen yn cael ei chryfhau gan bartneriaid cyflawni allweddol BBC Studios, NFTS Cymru, Ffilm Cymru Wales, Into Film, Culture Connect Wales, TAPE, Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg y Cymoedd; Prifysgol De Cymru, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth a fydd yn arwain y ffordd gyda phartneriaid ehangach ac yn sicrhau bod Siop Un Stop yn gweithio i bobl ym mhob rhanbarth o Gymru.

Bydd tîm sy’n gweithio ar ran y clwstwr sgiliau yng Nghymru, yn cael ei gyflogi i ysgogi a chyflwyno gweithgarwch dros y ddwy flynedd gyntaf er mwyn sicrhau dechrau cydlynol ac effeithiol i’r clwstwr. Sue Jeffries, Rheolwr Gyfarwyddwr Sgil Cymru, fydd yr arweinydd cyffredinol ar gyfer y prosiect, gyda’r Rheolwr Lleoliad a Chynhyrchu profiadol, Lowri Thomas yn arwain y tîm o ddydd i ddydd.

Dywedodd Sara Whybrew, Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Gweithlu’r BFI: “Mae Cymru’n genedl allweddol i’r sector sgrin yn y DU, yn gartref i gynyrchiadau ar raddfa fawr sy’n cael eu dosbarthu ar draws y byd, yn ogystal â chynnwys yn yr iaith Gymraeg. Bydd y bartneriaeth sydd ar waith, dan arweiniad Sgil Cymru, yn adeiladu ar waith hanfodol sydd wedi’i ddechrau a gobeithiwn y bydd y Clwstwr Sgiliau yn darparu sylfaen gref ar gyfer adeiladu ymhellach ar hyfforddiant sy'n newid y gêm, a chyfleoedd dysgu seiliedig ar waith ar gyfer talent amrywiol a chynrychioliadol ar draws y genedl. Mae’n bleser mawr gennyf groesawu Sgil Cymru, Screen Alliance Wales, Cymru Greadigol, a’u partneriaid di-ri yn y diwydiant i bortffolio Clwstwr Sgiliau’r BFI, ac ni allaf aros i gwrdd â rhai o’r doniau newydd y byddant yn eu cefnogi i ddod i mewn, a dod ymlaen, mewn gyrfa ym maes cynhyrchu sgrin.”

Dywedodd Sue Jeffries, Rheolwr Gyfarwyddwr Sgil Cymru: “Gyda balchder mae Sgil Cymru yn cymryd y rôl arweiniol yn y bartneriaeth hon. Mae’r ffaith bod y BFI, Cymru Greadigol, a BBC Studios wedi dangos eu hyder yn y genedl a’r sector drwy ymrwymo dwy flynedd o gyllid ar gyfer hyfforddiant yng Nghymru yn enfawr.

“Fel cwmni ni allwn aros i ddechrau ar y prosiect newydd cyffrous hwn. Bydd y Siop Un Stop yn dwyn ynghyd yr holl brosiectau hyfforddi gwych sydd eisoes yn digwydd yng Nghymru yn ogystal â gweld rhai mentrau newydd arbennig, a fydd i gyd yn helpu’r sector i dyfu ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Gweinidog Diwydiannau Creadigol Llywodraeth Cymru, Hannah Blythyn: “Mae ein Diwydiannau Creadigol yn parhau i fod yn stori lwyddiant gwirioneddol i Gymru. Ym maes cynhyrchu sgrin yn unig, mae economi Cymru yn gweld elw o unarddeg gwaith yn fwy ar bob punt a gaiff ei gwario.

“Mae conglfaen ein gwaith i ddatblygu a thyfu ein diwydiannau creadigol yn dibynnu ar inni feithrin a harneisio’n llwyddiannus yr ystod eang o dalent greadigol sydd gennym yma yng Nghymru. Rydym eisoes yn gweithio i ddarparu’r cymorth hwn drwy ein Cronfa Sgiliau Cymru Greadigol, ac rwy’n falch iawn o’n gweld yn gweithio gyda darparwyr allweddol i ddenu bron i £1miliwn o gyllid ychwanegol i Gymru i wella ymhellach ein gallu i baru talent â’r cyfleoedd cynyddol sydd gennym i gynnig ar draws y sector.”

Dywedodd Allison Dowzell, MD Screen Alliance Wales: “Mae Screen Alliance Wales wrth ein bodd i ymuno â Sgil Cymru a Chymru Greadigol yn y prosiect hollbwysig hwn i Gymru, wrth i ni gychwyn ar daith tuag at ddiwydiant sgrin fwy cynhwysol a chynrychioliadol. Mae 'Stop Un Siop’ yn gyfle gwych, gan arwain newydd-ddyfodiaid a gweithwyr proffesiynol profiadol tuag at yrfaoedd boddhaus ym myd deinamig y sgrin. Ar y cyd â’n partneriaid, rydym wedi ymrwymo i dorri rhwystrau, meithrin talent, a llunio gweithlu sy’n adlewyrchu’r amrywiaeth o’n cymunedau.”

Dywedodd Kris Green, Swyddog Gweithredol Hyfforddiant, BBC Studios Drama Productions: “Canolfan BBC Studios ym Mhorth y Rhath, Caerdydd yw cartref talent drama a sgrin yng Nghymru. Daw’r cydweithrediad hwn sydd wedi’i amseru’n berffaith gyda Sgil Cymru a Chymru Greadigol wrth i’r unig sebon cyfrwng Cymraeg yn y byd, Pobol y Cwm, ddathlu ei hanner canmlwyddiant ym mis Hydref.

“Yn ystod blwyddyn pen-blwydd euraidd y sioe, bydd y bartneriaeth hon yn ein galluogi i ddod â’r Academi Pobol gyntaf erioed yn fyw; menter hyfforddi gyfannol a fydd yn diogelu’r doniau cynhyrchu a golygyddol Cymraeg eu hiaith ar gyfer dyfodol Pobol a’r diwydiant ehangach, tra hefyd yn creu cyfleoedd uwchsgilio i garfan o bobl greadigol anhygoel trwy ail gyfres ein comedi Gymraeg Anfamol. Bydd y fenter ar y cyd hefyd yn helpu i greu rolau newydd cyffrous i hyfforddeion ar raglen feddygol, oriau brig, arobryn BBC Studios, Casualty, sy'n parhau i ddifyrru miliynau.”

***************************************************************************

Ynglŷn â Chlystyrau Sgiliau BFI

Mae cyllid Clystyrau Sgiliau BFI yn galluogi sefydliadau i gydweithio â diwydiant lleol, darparwyr addysg a hyfforddiant i ddatblygu llwybrau cliriach i gyflogaeth hirdymor ym maes cynhyrchu ffilm a theledu. Mae’r Clystyrau Sgiliau yn gweld partneriaid lleol yn nodi prinderau a bylchau sgiliau ac yn cydlynu cyfleoedd sgiliau a hyfforddiant ar gyfer criwiau cynhyrchu islaw’r llinell yn eu hardal. Trwy'r Clystyrau, nôd y BFI yw adeiladu sylfaen sgiliau lleol trwy helpu pobl ledled y DU, yn enwedig y rhai o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol, i ddod o hyd i lwybrau hyfyw i'r diwydiant sgrin a chymorth datblygu gyrfa effeithiol.

Hyd yma, mae’r BFI wedi buddsoddi cyfanswm o £9m o arian y Loteri Genedlaethol dros dair blynedd yn y meysydd canlynol:

Screen Yorkshire (Gogledd Lloegr): £2.3m

Film London (Llundain, Sir Hertford, Surrey, a Sir Bwcingham): £2.2m

Screen Scotland (Yr Alban): £1.1m

Create Central (Gorllewin Canolbarth Lloegr): £1m

Northern Ireland Screen (Gogledd Iwerddon): £0.9m

Resource Productions (Berkshire): £0.6m

Sgil Cymru (Cymru): £0.9m

Mae’r BFI yn elusen ddiwylliannol, yn ddosbarthwr y Loteri Genedlaethol, a phrif sefydliad y DU ar gyfer ffilm a’r ddelwedd symudol. Ein cenhadaeth yw:

Cefnogi creadigrwydd a mynd ati i chwilio am y genhedlaeth nesaf o storïwyr y DU

Tyfu a gofalu am Archif Genedlaethol y BFI, sef archif ffilm a theledu mwyaf y byd

Cynnig yr ystod ehangaf o ddiwylliant delwedd symudol y DU a rhyngwladol trwy ein rhaglenni a'n gwyliau - a ddarperir ar-lein ac mewn lleoliadau

Defnyddio ein gwybodaeth i addysgu a dyfnhau gwerthfawrogiad a dealltwriaeth y cyhoedd o ffilm a'r ddelwedd symudol

Gweithio gyda'r Llywodraeth a diwydiant i sicrhau twf parhaus diwydiannau sgrin y DU

Wedi'i sefydlu ym 1933, mae'r BFI yn elusen gofrestredig a lywodraethir gan Siarter Frenhinol. Mae Bwrdd Llywodraethwyr y BFI yn cael ei gadeirio gan Jay Hunt.

Related Articles

Bad Wolf and Screen Alliance Wales announce the four screenwriters selected for the inaugural Blaidd Writers Programme.

November Newsletter

October Newsletter

Screen Alliance Wales Secures Creative Skills Fund Grant to Nurture Talent and Diversity in Welsh Creative Industries